Dyddiad | Date: 16 Tachwedd 2021
Annwyl Bwyllgor Busnes
Cais am newid i Reol Sefydlog 23.4(i)
Rwy'n ysgrifennu i ofyn am newid i Reol Sefydlog 23.4(i) sy'n pennu 50 o lofnodion fel trothwy i ddeiseb gael ei thrafod gan y Pwyllgor. Ar ôl trafod argymhelliad y Pwyllgor blaenorol ac, o gofio’r cynnydd amlwg mewn gweithgarwch deisebau ers cyflwyno ein gwefan deisebau newydd yn 2020, cred y Pwyllgor y byddai 250 o lofnodion yn drothwy mwy addas i ddeiseb ddangos bod ganddi ddigon o gefnogaeth i’w thrafod yn y senedd genedlaethol.
Y newid gofynnol fyddai:
Yn Rheol Sefydlog 23.4(i), dileu 50 a rhoi 250 yn ei le.
Credwn fod trafod deiseb yn y senedd genedlaethol yn ddigwyddiad arwyddocaol. Pan ofynnir i’r Pwyllgor drafod deisebau ac ysgrifennu at Weinidogion a chyrff eraill yn gofyn am atebion, credwn y dylai'r ddeiseb allu dangos rhywfaint o gefnogaeth boblogaidd.
Os oes digon o amser yn y Siambr, hoffem i'r newid hwn ddod i rym ar 1 Ionawr 2022, fel y byddai'r holl ddeisebau newydd o ddechrau'r flwyddyn yn ddarostyngedig i'r trothwy newydd.
Rwyf wedi atodi rhagor o wybodaeth i ategu ein hargymhelliad.
Yn gywir
Jack Sargeant AS
Cadeirydd
Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg.
We welcome correspondence in Welsh or English.
Atodiad
Cefndir cais y Pwyllgor
Pam y mae'r Pwyllgor yn cynnig codi'r trothwy ar gyfer deisebau i'r Senedd?
Yn sgil cyflwyno gwefan deisebau newydd ym mis Ebrill 2020, roedd yn llawer haws creu a llofnodi deisebau – yn enwedig o ddyfeisiau symudol. O ganlyniad i hynny, mae nifer y deisebau sy'n cyrraedd y trothwy presennol, sef 50 o lofnodion, i'w trafod gan y Pwyllgor wedi codi i'r entrychion.
Roedd amgylchiadau unigryw 2020 a'r pandemig yn ei gwneud yn anodd gweld a oedd y newid yn gynaliadwy. Ond mae ffigurau 10 mis cyntaf 2021 yn dangos bod y cynnydd wedi'i gynnal o'u cymharu â ffigurau 2017-2019.
Mae'r cynnydd hwn yn nifer y deisebau a gyflwynwyd wedi cynyddu llwyth gwaith y Pwyllgor, sy'n golygu y bu llai o amser i ganolbwyntio ar waith craffu manwl mewn perthynas â deisebau a all wneud gwahaniaeth.
Pa wahaniaeth y bydd newid y trothwy yn ei wneud?
Mae Pwyllgor Deisebau’r Chweched Senedd yn awyddus i wneud gwahaniaeth cadarnhaol a gwella bywydau pobl yng Nghymru. Er mwyn gwneud hynny, rydym yn bwriadu rhoi mwy o amser i drafod deisebau a allai arwain at newid. O ganlyniad i hynny, mae'n rhaid i ni wneud dewisiadau anodd weithiau, fel bod gennym yr adnoddau i fod yn rhagweithiol lle rydym yn gweld potensial i wneud gwahaniaeth.
Pam na ddigwyddodd y newid hwn pan newidiwyd y trothwy ar gyfer dadl?
Cododd y Pwyllgor blaenorol y trothwy ar gyfer dadl yn y Senedd o 5,000 i 10,000 mewn ymateb i boblogrwydd cynyddol deisebau. Argymhellodd adroddiad gwaddol y Pwyllgor hwnnw godi'r trothwy gan ddweud y “gellir cyfiawnhau…200 neu 250 o lofnodion...i sicrhau y gall y deisebau sy’n cael eu cyfeirio i graffu arnynt ddangos lefel sylweddol o gefnogaeth y cyhoedd." Fodd bynnag, penderfynodd y Pwyllgor nad oedd yn eglur bryd hynny i ba raddau roedd y cynnydd mewn gweithgarwch deisebu o ganlyniad i bandemig Covid-19 a chytunodd i ohirio gweithredu nes bod mwy o wybodaeth ar gael.
A fyddai trothwy is yn dal i gyflawni nod y Pwyllgor?
Trafododd y Pwyllgor hyn, ond penderfynodd y byddai llai o gynnydd yn y trothwy nawr yn golygu bod angen ei gynyddu eto’n gymharol fuan. Gan fod angen newid i’r Rheolau Sefydlog er mwyn newid y trothwy, roeddem am newid a fyddai’n rhoi deisebau ar sail gynaliadwy am dymor cyfan y Chweched Senedd.
Ni fyddai codi'r trothwy o 50 i 100 yn gwneud llawer o wahaniaeth i allu'r Pwyllgor i roi mwy o amser i drafod deisebau sydd â photensial. Mae 80 y cant o ddeisebau dros y flwyddyn ddiwethaf wedi cyrraedd 100 o lofnodion (a chredwn y byddai mwy na 90 y cant yn cyrraedd y nifer honno pe bai cymhelliant gan y deisebwyr i gael y llofnodion ychwanegol).
Ar hyn o bryd, mae deiseb 'ar gyfartaledd' yn cael mwy na 300 o lofnodion – gyda'r rhai poblogaidd iawn yn cael degau o filoedd.
Gyda 250 o lofnodion, byddai mwy na 56 y cant o ddeisebau dros y flwyddyn ddiwethaf yn dal i gael eu trafod. Byddai hyn yn fwy o ddeisebau na’r rhai a drafododd y Pwyllgor blaenorol yn 2017 neu 2018, ac yn agos iawn at ffigur 2019.
DIWEDD